Ymgyrch Canfod Canser yr Ysgyfaint yn Gynnar Cymru
Siaradwch â'ch meddyg teulu, nid chi eich hun
Mae Cancer Research UK wedi lansio ymgyrch mewn partneriaeth â GIG Cymru i gefnogi mwy o bobl i ganfod canser yr ysgyfaint yn gynnar.
Peswch sydd wedi para am 3 wythnos neu fwy? Colli pwysau heb esboniad? Yn fyr eich gwynt? Mae’n well bob amser mynd i weld meddyg.
Ddim o Gymru? Cewch ragor o wybodaeth ar gyfer holl wledydd y DU ar achosion canser a chanfod canser yn gynnar.
Symptomau canser yr ysgyfaint

O ran canfod canser, y peth gorau y gallwch chi ei wneud yw gwrando ar eich corff. Peidiwch ag anwybyddu newidiadau sy'n anarferol i chi.
Dyma rai arwyddion o ganser yr ysgyfaint:
- Teimlo'n fyr o wynt neu'n cael trafferth anadlu
- Peswch nad yw'n mynd i ffwrdd
- Colli pwysau heb geisio gwneud hynny
Beth bynnag yw'r newid, os nad yw'n arferol i chi, siaradwch â'ch meddyg. Yn y rhan fwyaf o achosion, ni fydd yn ganser. Ond os ydyw, gall dod o hyd iddo yn gynnar wneud gwahaniaeth go iawn.
Pwy all datblygu canser y ysgyfaint?
Gall unrhyw un ddatblygu canser yr ysgyfaint p'un a ydych chi'n ysmygu ai peidio, ond mae'n fwy cyffredin wrth i ni fynd yn hŷn ac mewn pobl sy'n ysmygu. Mae'r rhan fwyaf o achosion o ganser yr ysgyfaint sy'n cael eu diagnosio yng Nghymru ymhlith pobl 50 oed a throsodd.
Os nad yw rhywbeth yn teimlo'n iawn, waeth pwy ydych chi, beth yw eich oed, neu beth rydych chi'n meddwl sy'n achosi'ch symptomau, mae'ch meddyg eisiau clywed gennych.
Peidiwch â chymryd mai ‘dim ond’ mynd yn hŷn neu gyflwr arall sydd gennych sy’n gyfrifol am y newidiadau anarferol. Os yw rhywbeth yn anarferol i chi – peidiwch â'i anwybyddu, cysylltwch â'ch meddygfa.
Mae canfod canser yn gynnar yn achub bywydau.
Nid wyf yn siŵr a yw fy symptomau yn ddifrifol
Cofiwch, chi sy'n adnabod eich corff orau. Os nad yw rhywbeth yn edrych neu'n teimlo'n iawn, mae eich meddyg teulu eisiau clywed gennych. Nid eich gwaith chi yw gwybod beth sydd o'i le, ond eich gwaith chi yw gwrando ar eich corff. P'un a yw'n beswch sydd wedi para 3 wythnos neu fwy, neu os ydych chi'n brin o wynt yn gwneud y pethau roeddech chi'n arfer eu gwneud heb broblem, os yw rhywbeth yn anarferol i chi - mae'n well bob amser i chi fynd i weld meddyg. Yn y rhan fwyaf o achosion, ni fydd yn ganser, ond os ydyw, gallai ei ganfod yn gynnar wneud gwahaniaeth mawr.
Cael apwyntiad i weld meddyg teulu

Os nad ydych wedi gallu cael apwyntiad y tro cyntaf, cofiwch ddal ati. Hyd yn oed pan fydd eich meddygfa yn brysur iawn, maen nhw'n gwneud popeth o fewn eu gallu i siarad â chi cyn gynted â phosib. Efallai y byddant hyd yn oed yn gallu awgrymu gweithiwr iechyd proffesiynol addas a fyddai’n gallu eich helpu yn gynt na'ch meddyg teulu.
Mae rhai meddygfeydd yn cynnig mwy nag un ffordd o drefnu apwyntiad. Gall hyn gynnwys ffonio, llenwi e-ymgynghoriad neu ffurflen ar-lein, a chlinigau cerdded i mewn. Os ydych eisoes wedi rhoi cynnig ar un dull o gysylltu, edrychwch pa opsiynau eraill sydd gan eich meddygfa i'w cynnig ar eu gwefan.
Sut i gofrestru gyda meddyg teulu
Byw yng Nghymru? Gwnewch yn siŵr eich bod wedi cofrestru gyda meddyg teulu lleol.
Byddwch yn gallu gwneud apwyntiadau'n haws ac mae'n golygu y byddwch yn derbyn gwahoddiadau i sgrinio canser yn awtomatig - dull canfod cynnar allweddol ar gyfer pobl heb unrhyw symptomau - pan fyddwch yn gymwys.