Mae ein maniffesto yn amlinellu'r mesurau ac ymrwymiadau mae'n rhaid i Lywodraeth nesaf Cymru eu gwneud i helpu atal tua 5,500 o farwolaethau canser rhwng nawr a 2040.
Darllenwch ein maniffesto yn y GymraegErs y 1970au, mae cyfraddau marwolaethau canser wedi syrthio tua 16% yng Nghymru, diolch i welliannau mewn atal, diagnosio a thrin canser.
Bydd bron i 1 ym mhob 2 ohonom yn cael canser yn ein bywydau. Canser yw prif achos marwolaeth yng Nghymru, ac mae’n effeithio ar bob teulu ym mhob etholaeth.
Ochr yn ochr â chost ddynol ddinistriol canser, cafodd tua 16,000 o flynyddoedd cynhyrchiol bywyd eu colli i ganser yng Nghymru yn 2023 yn unig.
Wrth i'n poblogaeth dyfu a heneiddio, mae'r nifer o achosion canser newydd yn cynyddu. Erbyn 2038–2040, rhagwelir y bydd nifer yr achosion newydd yn cynyddu mwy nag un rhan o ddeg o'i gymharu â heddiw. Mae hynny’n golygu bydd tua 24,800 o achosion newydd yn cael eu diagnosio bob blwyddyn yng Nhymru.
Ac nid yw canser yn effeithio ar bobl yn gyfartal. Mae cyfraddau marwolaethau canser bron 48% yn uwch i bobl sy'n byw yn ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru o'i gymharu â'r lleiaf difreintiedig. Mae hyn yn annerbyniol.
Rydym mewn oes aur o ran ymchwil i ganser. Mae offer a thechnoleg newydd yn golygu y gallwn wneud pethau mewn oriau oedd yn arfer cymryd blynyddoedd, gan olygu ein bod ni ar fin cymryd camau mawr yn y ffordd rydym yn atal, diagnosio a thrin canser.
Bydd buddsoddi mewn ymchwil, atal, diagnosio cynnar a thriniaeth canser:
yn achub a gwella bywydau
o fudd i’r GIG
yn gwella cynhyrchiant
yn cryfhau’r economi
Rydym wedi llwyddo o'r blaen a gallwn lwyddo eto. Gydag ewyllys ac arweinyddiaeth wleidyddol, gallwn oll gael rhagor o amser gyda’r bobl rydym yn eu caru.
Dylai Llywodraeth Cymru wneud ymrwymiad cenedlaethol i leihau'r gyfradd marwolaethau o ganser gan 15% erbyn 2040, a fyddai'n atal tua 5,500 o farwolaethau canser.
Mae ein maniffesto yn amlinellu'r mesurau cyntaf ac ymrwymiadau hirdymor y gall llywodraeth sy'n dod i mewn eu gwneud i gynyddu cyfraddau goroesi canser a sicrhau bod pobl yng Nghymru yn byw bywydau hirach, gwell, yn rhydd rhag ofn canser.
Mae angen ymagwedd uchelgeisiol genedlaethol ar Gymru at wella canlyniadau canser sy'n cael ei hategu gan strategaeth ganser hirdymor.
Mae’n rhaid i hyn gael ei gyflawni trwy drefniadau arweinyddiaeth cryf a llywodraethu effeithiol, gan ganolbwyntio ar ysgogi diagnosis cynharach, mynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd a lleihau marwolaethau canser. Mae’n rhaid i’r llywodraeth ddefnyddio hyn fel cyfle i ddysgu gwersi gan genhedloedd sydd arloesi’r ffordd o fynd i’r afael â chanser, tra’n harneisio cryfderau Cymreig hefyd.
Rydym yn rhagweld dyfodol lle bydd pob unigolyn yng Nghymru, ble bynnag y maen nhw'n byw, â mynediad cyflym a theg at y cyfleusterau gorau oll mewn atal canser, diagnosis cynharach a thriniaethau mwy caredig a gwell.
I wireddu hyn, mae'n rhaid i ni gryfhau'r GIG yng Nghymru trwy gefnogi gofal sylfaenol a chryfhau capasiti o fewn y gweithlu canser, gan sicrhau bod ganddynt yr offer a'r technolegau cwbl fodern hanfodol. Dylai hyn gael ei ategu gan gasglu data cywir a chynllunio gweithlu hirdymor ar gyfer canser, i sicrhau ein bod yn adeiladu gwasanaeth iechyd sy’n ateb anghenion heddiw ac sy’n barod i wynebu heriau yfory.
Mae tybaco yn achosi tua 2 mewn 3 achos o ganser yr ysgyfaint ac mae'n gyfrifol am tua 4,100 o farwolaethau yng Nghymru bob blwyddyn.
Mae gweithredu eofn yn hanfodol er mwyn atal cymaint o achosion canser yr ysgyfaint â phosibl, trwy weithredu a gorfodi'r Bil Tybaco a Fêps a chryfhau gwasanaethau sy’n helpu pobl i roi'r gorau i ysmygu.
Dylai rhaglen sgrinio genedlaethol canser yr ysgyfaint Cymru gael ei gweithredu cyn gynted â phosibl i ddarganfod rhagor o achosion canser yr ysgyfaint yn gynnar, pan fyddant yn fwy triniadwy ac mae’r tebygolrwydd o oroesi ar ei uchaf.
Gall Llywodraeth Cymru gryfhau'r sylfaen ymchwil yng Nghymru gan weithredu i gefnogi buddsoddiad ymchwil sylfaenol i brifysgolion. Dylai hyn gael ei yrru gan bartneriaeth rhwng arweinyddion systemau ymchwil sy'n canolbwyntio ar feysydd o gryfder cymharol yng Nghymru.
Mae cryfhau ein ecosystemau arloesedd yn hanfodol hefyd i gael offer a thechnolegau newydd i gleifion yn gyflymach. Dylai hyn gael ei wireddu trwy gyflymu llwybrau at fabwysiadu, cymell gweithgaredd ymchwil o fewn y GIG ac adnabod a blaenoriaethu technolegau newydd yn eglur.
Am ragor o wybodaeth am ein maniffesto i Gymru, e-bostiwch ni:
Rheolwr Materion Cyhoeddus (Cymru)
Cancer Research UK, Lifetime risk of cancer. Available here.
News, updates and opinion, posted weekly.